skip to Main Content
GWNEWCH IECHYD GYFARTAL YNG NGHYMRU
OHERWYDD PETHAU FEL INCWM, ANSAWDD AER A THAI, GALL LLE Y CAWSOCH EICH GENI DORRI HYD AT
16 MLYNEDD O'CH BYWYD

DARGANFOD Y DISGWYLIAD OES YN EICH ARDAL CHI

Effeithir ar y nifer y blynyddoedd y gall rhywun ddisgwyl byw gan lawer o bethau, o gartrefi uchel eu hansawdd, i gymdogaethau gyda mannau gwyrdd ac awyr lân.

Darganfod y disgwyliad oes lle rydych chi’n byw.

SUT MAE DISGWYLIAD OES YN CYMHARU AR DRAWS Y DU?
74oed
Y cyfartaledd cenedlaethol81
90oed

Disgwyliad oes

Mae’r byd o’n cwmpas yn siapio ein hiechyd a’n lles.

O gartrefi o safon sy’n gynnes ac yn ddiogel, i swyddi sefydlog, cysylltiadau cymdeithasol, a chymdogaethau â mannau gwyrdd ac awyr lân, dyma’r blociau adeiladu sy’n cael effaith barhaol a chadarnhaol ar iechyd pobl, ac yn lleihau anghydraddoldebau iechyd.

Yng Nghymru ac ar draws y DU, nid yw’r blociau adeiladu hyn ar gael i bawb, neu nid ydynt o’r ansawdd gofynnol.

Data o offeryn adrodd Fframwaith Canlyniadau Iechyd y Cyhoedd i Gymru.

1 mewn 4

Mae 1 o bob 4 plentyn yng Nghymru yn byw mewn tlodi.

Crynodiad cyfartalog NO₂ (µg/m³), anheddau preswyl, Cymru, Awdurdod Lleol, 2021, 13 yng Nghaerdydd, 2.6 yng Ngheredigion, 2.8 yn Ynys Môn, 2.6 yng Ngwynedd.

5 gwaith

Mae ansawdd aer yn amrywio ar draws Cymru gyda llygredd aer yng Nghaerdydd fwy na 5 gwaith yn uwch nag mewn rhannau eraill o Gymru.

Gall 84.5% o bobl fforddio nwyddau a gweithgareddau bob dydd, canran, pobl, Cymru, 2022/2023. Cynhyrchwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru gan ddefnyddio Arolwg Cenedlaethol Cymru (LlC).

84%

Gall 84% o bobl Cymru fforddio nwyddau a gweithgareddau bob dydd.

GWNAETHOM OFYN I BOBL YNG NGHAERDYDD BETH YN EU BARN NHW YW’R DISGWYLIAD OES CYFARTALOG YN EU ARDAL, A’R PETHAU SY’N CYFRANNU FWYAF AT EU HIECHYD.

DARGANFOD YR HYN Y GWNAETHON NHW DDWEUD…

DARGANFOD YR HYN Y GWNAETHON

NHW DDWEUD

Lawrlwythwch y trawsgrifiad
BETH MAE POBL YN EI WYNEBU A SUT ALLWN NI NEWID PETHAU?
  • 'Rydyn ni'n cael ein rhedeg gan bobl ag anabledd dysgu ac mae gan ein holl staff rheng flaen anabledd dysgu. Mae hyn yn arwain at rymuso sy'n gwella iechyd meddwl pobl'

    Mae Zarah Kaleem, 36, yn Fwslim Pacistanaidd a aned yng Nghasnewydd, Gwent, De Cymru. Mae Zarah wedi bod yn rhan o’r gymuned Pobl yn Gyntaf ers 2008 ac ar hyn o bryd mae’n cael ei chyflogi fel swyddog prosiect gyda Pobl yn Gyntaf Caerdydd a Pobl yn Gyntaf Casnewydd.

    Mae Pobl yn Gyntaf Caerdydd yn sefydliad hunaneirioli ac eiriolaeth gymunedol. Mae’n cael ei redeg gan a thros bobl sydd ag anableddau dysgu yng Nghaerdydd, gan frwydro dros gydraddoldeb, dealltwriaeth, parch a derbyniad. Gyda’i gilydd, maent yn ymgyrchu i newid agweddau, cael gwell gwasanaethau a mwynhau mwy o gyfleoedd.

    Wrth siarad am Pobl yn Gyntaf Caerdydd, dywedodd Zarah: ‘Dydw i ddim yn meddwl bod pobl ag anabledd dysgu bob amser yn ymwybodol o’u hawliau, bod ganddyn nhw hawl i ansawdd bywyd gwell… Rydyn ni’n unigryw oherwydd i ni gael ein rhedeg gan bobl ag anabledd dysgu ac mae gan ein holl staff rheng flaen anabledd dysgu. Mae hyn yn arwain at rymuso sy’n gwella iechyd meddwl pobl.’

I’R GAD #MakeHealthEqual

Cofrestrwch i gael gwybod mwy am ein hymgyrchoedd a sut y gallwch chi helpu siapio cymdeithas lle mae gan bob un ohonom y siawns orau o iechyd da, ni waeth ble y cawsom ein geni.

Sign up to find out more about our campaigns and how you can help shape a society where each of us has the best chance of good health, no matter where we’re born.

Untitled(Required)
Cofrestrwch nawr

Gall eich llais ein helpu i ymgyrchu yn erbyn anghydraddoldeb iechyd yn y DU.

Ydych chi eisiau mynnu newid nawr?

Llofnodwch ein deiseb a gofynnwch i'ch AS lleol ymrwymo i #MakeHealthEqual.

Gwnaethom deithio ar hyd a lled y DU i gael gwybod sut mae

rhanbarthau'n cymharu.

Darganfod mwy
Close