Beth yw’r disgwyliad oes yn eich ardal chi?
Disgwyliad oes yw nifer y blynyddoedd y gall person ddisgwyl byw.
Ar hyn o bryd, mae pobl mewn rhai rhannau o’r DU yn byw 18 o flynyddoedd yn llai na phobl mewn rhannau eraill. Ni ddylai eich cod post bennu pa hir neu pha mor dda y byddwch yn byw.
Beth sy'n effeithio ar ddisgwyliad oes?
Er bod y dewisiadau a wnawn i gyd yn bwysig, dim ond rhan o’r darlun ydynt. Caiff nifer y blynyddoedd y gallwn ddisgwyl eu byw ei bennu gan yr amodau rydym yn cael ein geni, yn byw ac yn gweithio ynddynt: o gartrefi o safon i swyddi sefydlog, cysylltiadau cymdeithasol a chymdogaethau sydd â mannau gwyrdd ac aer glân.
Mae bywydau'n cael eu byrhau
Nid yw’r pethau sylfaenol hyn ar gael i bawb yn ddiwahân. Er enghraifft, mae pobl yn ein cymunedau mwyaf difreintiedig yn marw flynyddoedd yn gynharach na’r rhai yn y cymunedau mwyaf cefnog, ac yn treulio mwy o’u hoes mewn iechyd gwael.
Rydym yn colli tir. Mae’r data diweddaraf yn dangos bod iechyd y genedl yn dirywio a bod anghydraddoldebau’n parhau i ehangu.
Mae newid yn bosibl
Nid yw’r bwlch disgwyliad oes hwn yn anochel – ond i’w gau, rhaid i ni weithredu ar frys.
Dyna pam rydym yn galw am newid yn y gyfraith i’r llywodraethau presennol a’r rhai sydd i ddod greu iechyd gwell ym mhob cod post.
Sign up to receive updates from Health Equals
Please complete the form and we’ll be in touch by email when we have news or updates related to Health Equals. You can unsubscribe from these emails at any time.
