skip to Main Content

Beth yw’r disgwyliad oes yn eich ardal chi?
Disgwyliad oes yw nifer y blynyddoedd y gall person ddisgwyl byw.

This field is for validation purposes and should be left unchanged.

Ar hyn o bryd yn y DU, mae bywydau pobl yn cael eu torri’n fyr oherwydd ble maen nhw’n byw. Nid oes rhaid iddo fod fel hyn. Ymunwch â’r ymgyrch dros newid.
#LivesCutShort

Bywydau'n cael eu torri'n rhy fyr

Nid yw’r DU yn wlad lle rydyn ni i gyd yn cael yr un cyfleoedd i fyw bywydau iach. Mae’r bobl sy’n byw yn ein cymdogaethau tlotaf yn marw flynyddoedd ynghynt na phobl yn yr ardaloedd cyfoethocaf. Ac mae tystiolaeth yn dangos bod yr anghydraddoldebau iechyd hyn yn gwaethygu.

Ffactorau sy'n effeithio ar ddisgwyliad oes

Effeithir ar y nifer y blynyddoedd y gall rhywun ddisgwyl byw gan lawer o ffactorau, o gartrefi uchel eu hansawdd, i swyddi sefydlog, cysylltiadau cymdeithasol, a chymdogaethau gyda mannau gwyrdd ac awyr glân. Rydym yn galw’r ffactorau hyn yn flociau adeiladu iechyd a lles.

Mae modd newid pethau

Gellir lleihau anghydraddoldebau drwy ganolbwyntio ar yr hyn rydyn ni’n gwybod sy’n siapio iechyd. Ganwyd Health Equals o’r angen am ailadeiladu sylfeini er mwyn gwella disgwyliad oes a gwrthdroi anghydraddoldebau iechyd yn y DU.

Close