DARGANFOD Y DISGWYLIAD OES YN EICH ARDAL CHI
Effeithir ar y nifer y blynyddoedd y gall rhywun ddisgwyl byw gan lawer o bethau, o gartrefi uchel eu hansawdd, i gymdogaethau gyda mannau gwyrdd ac awyr lân.
Darganfod y disgwyliad oes lle rydych chi’n byw.
Disgwyliad oes
Mae’r byd o’n cwmpas yn siapio ein hiechyd a’n lles.
O gartrefi o safon sy’n gynnes ac yn ddiogel, i swyddi sefydlog, cysylltiadau cymdeithasol, a chymdogaethau â mannau gwyrdd ac awyr lân, dyma’r blociau adeiladu sy’n cael effaith barhaol a chadarnhaol ar iechyd pobl, ac yn lleihau anghydraddoldebau iechyd.
Yng Nghymru ac ar draws y DU, nid yw’r blociau adeiladu hyn ar gael i bawb, neu nid ydynt o’r ansawdd gofynnol.
GWNAETHOM OFYN I BOBL YNG NGHAERDYDD BETH YN EU BARN NHW YW’R DISGWYLIAD OES CYFARTALOG YN EU ARDAL, A’R PETHAU SY’N CYFRANNU FWYAF AT EU HIECHYD.
DARGANFOD YR HYN Y GWNAETHON NHW DDWEUD…
DARGANFOD YR HYN Y GWNAETHON
NHW DDWEUD
-
'Rydyn ni'n cael ein rhedeg gan bobl ag anabledd dysgu ac mae gan ein holl staff rheng flaen anabledd dysgu. Mae hyn yn arwain at rymuso sy'n gwella iechyd meddwl pobl' Mae Zarah Kaleem, 36, yn Fwslim Pacistanaidd a aned yng Nghasnewydd, Gwent, De Cymru. Mae Zarah wedi bod yn rhan o’r gymuned Pobl yn Gyntaf ers 2008 ac ar hyn o bryd mae’n cael ei chyflogi fel swyddog prosiect gyda Pobl yn Gyntaf Caerdydd a Pobl yn Gyntaf Casnewydd.
Mae Pobl yn Gyntaf Caerdydd yn sefydliad hunaneirioli ac eiriolaeth gymunedol. Mae’n cael ei redeg gan a thros bobl sydd ag anableddau dysgu yng Nghaerdydd, gan frwydro dros gydraddoldeb, dealltwriaeth, parch a derbyniad. Gyda’i gilydd, maent yn ymgyrchu i newid agweddau, cael gwell gwasanaethau a mwynhau mwy o gyfleoedd.
Wrth siarad am Pobl yn Gyntaf Caerdydd, dywedodd Zarah: ‘Dydw i ddim yn meddwl bod pobl ag anabledd dysgu bob amser yn ymwybodol o’u hawliau, bod ganddyn nhw hawl i ansawdd bywyd gwell… Rydyn ni’n unigryw oherwydd i ni gael ein rhedeg gan bobl ag anabledd dysgu ac mae gan ein holl staff rheng flaen anabledd dysgu. Mae hyn yn arwain at rymuso sy’n gwella iechyd meddwl pobl.’
I’R GAD #MakeHealthEqual
Cofrestrwch i gael gwybod mwy am ein hymgyrchoedd a sut y gallwch chi helpu siapio cymdeithas lle mae gan bob un ohonom y siawns orau o iechyd da, ni waeth ble y cawsom ein geni.
Gall eich llais ein helpu i ymgyrchu yn erbyn anghydraddoldeb iechyd yn y DU.
Gwnaethom deithio ar hyd a lled y DU i gael gwybod sut mae
rhanbarthau'n cymharu.